Queer as Folk

Queer as Folk
Genre Drama / Opera sebon
Serennu Aidan Gillen
Craig Kelly
Charlie Hunnam
Gwlad/gwladwriaeth DU
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 10
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c. 35 i 50 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Channel 4
Darllediad gwreiddiol 23 Chwefror, 199922 Chwefror, 2000

Cyfres deledu Brydeinig ym 1999 oedd Queer as Folk yn olrhain hanes bywydau tri dyn hoyw sy'n byw o amgylch pentref hoyw Canal Street ym Manceinion. Ysgrifennwyd Queer as Folk a Queer as Folk 2 gan Russell T. Davies. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r ddrama Bob and Rose ac am ad-fywiad Doctor Who ar y BBC yn 2005. Cafodd y gyfres ei ail-darlledu rhwng 14eg a'r 18fed o Hydref 2007 fel rhan o ddathliadau penblwydd Sianel 4 yn 25 oed.

Cynhyrchwyd Queer as Folk gan y cwmni teledu annibynnol Red Production Company ar gyfer Sianel 4, cwmni a oedd wedi dangos eu parodrwydd i ddelio a deunydd hoyw mewn ffilmiau fel Beautiful Thing. Daw teitl y gyfres o ymadrodd ieithyddol o Ogledd Lloegr "There's nought so queer as folk" sy'n golygu "does dim mor rhyfedd a phobol." Bwriad gwreiddiol Davies oedd i ddefnyddio hyn fel enw'r gyfres ond awgrymodd Sianel 4 y dylid byrhau'r enw i Queer as Folk.

Cafodd y gerddoriaeth agoriadol a'r gerddoriaeth a oedd yn cyd-fynd â'r gyfres ei ysgrifennu'n arbennig ar gyfer y gyfres gan Murray Gold.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy